Papur Tystiolaeth Ysgrifenedig ar Ddinas-Ranbarthau, Ardaloedd Menter a'r Metro gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
1. Cyflwyniad
1.1 Diben y papur hwn yw cynorthwyo'r Pwyllgor gyda'u sesiwn graffu ar y Dinas-Ranbarthau, yr Ardaloedd Menter a’r Metro.
1.2 Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn graffu ar yr un pynciau ar 4 Rhagfyr 2014. Fe wnes i ddarparu Papur Tystiolaeth Ysgrifenedig ar gyfer y sesiwn hwnnw.
1.3 Mae'r Papur yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd ers y sesiwn honno.
2. Dinas-Ranbarthau
2.1 Mae Byrddau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Dinas-Ranbarth Bae Abertawe wedi darparu arweinyddiaeth, gweledigaeth strategol, syniadau a chyngor. Mae hyn wedi darparu ffocws ac wedi creu egni o ran chwilio am gyfleoedd i ddatblygu yn rhanbarthau’r ddinas.
2.2 Roedd y telerau penodi i Fyrddau'r Dinas-Ranbarthau ar gyfer cyfnod penodol o 18 mis. Fodd bynnag, rwy’n ymestyn y cyfnod penodi ar gyfer y ddau Fwrdd i'w galluogi i gwblhau'r gwaith sydd ganddynt ar hyn o bryd - ar ôl hynny, byddwn yn ystyried y sefyllfa ymhellach.
Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
2.3 Mae Bwrdd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi bod yn cyfarfod yn rheolaidd, gan gynnal cyfarfodydd ar draws y rhanbarth a chael trafodaethau gydag amrywiaeth o randdeiliaid ac arbenigwyr.
2.4 Un o'r allbynnau allweddol ers cyfarfod y Pwyllgor ar 4 Rhagfyr fu datblygu a chyhoeddi 'Sbarduno Economi Cymru'.[1] Nododd y ddogfen hon garreg filltir bwysig yn natblygiad Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
2.5 Mae’n amlygu'r cyfle i'r rhanbarth - ei phobl, cymunedau, busnesau, ac ystod eang o grwpiau eraill - uno o amgylch pedair thema allweddol:
· cysylltedd (digidol a ffisegol);
· sgiliau;
· arloesedd a thwf;
· hunaniaeth.
2.6 Ers cyhoeddi’r adroddiad, mae'r Bwrdd wedi treulio'r wythnosau diwethaf yn ystyried y ffordd orau i droi'r weledigaeth yn ffordd o gyflawni prosiectau penodol. Bydd y Bwrdd yn rhoi cyngor pellach i mi ar y mater hwn erbyn ddiwedd Mehefin a byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi Aelodau.
Dinas-Ranbarth Bae Abertawe
2.7 Mae Bwrdd Dinas-Ranbarth Bae Abertawe wedi gwneud cynnydd sylweddol dros y chwe mis diwethaf. Trwy ganolbwyntio ar brosiectau mawr, mae'r Bwrdd eisoes yn dechrau arddangos ei rôl fel sbardun ar gyfer newid. Mae yna nifer o ddatblygiadau arwyddocaol yn hyn o beth:
· Ym mis Ionawr, cyhoeddodd y Bwrdd ddogfen o'r enw 'Strategaeth Twf ar gyfer Dinas-Ranbarth Bae Abertawe'[2], sy'n nodi gweledigaeth uchelgeisiol a heriol ar gyfer Abertawe a'r rhanbarth ehangach;
· mae'r Bwrdd wedi parhau i ystyried sut i sicrhau gwerth gorau am arian o'r cylch cyllido Ewropeaidd sydd ar y gweill, gan edrych ar brosiectau o bwysigrwydd rhanbarthol;
· yn fwy diweddar mae'r Bwrdd wedi chwarae rhan allweddol yn cynnal Uwchgynhadledd Arloesedd rhyngwladol a welodd y canlynol yn digwydd:
- lansio Llwyfan Menter Band-eang BT i Abertawe;
- a chreu brand newydd sbon.
Mae'r Bwrdd wedi bod yn gweithio ar ddarparu'r Llwyfan Menter a chreu'r brand ers peth amser.
2.8 Llwyfan Menter BT yw'r cyntaf o'i fath yn y byd. Mae llwyfannau menter eraill yng Nghaergrawnt a Newcastle ffocws ar y defnyddiwr yn hytrach nag ar fenter, ac felly mae'n gam sylweddol ymlaen ar gyfer y Rhanbarth. Trwy gysylltiadau â Phrifysgol Abertawe a chyda'r potensial ar gyfer cwmnïau deillio a busnesau newydd gwerth uchel, mae'n fuddsoddiad a allai greu buddiannau sylweddol ar gyfer y Rhanbarth.
3. Ardaloedd Menter
3.1 Mae'r Ardaloedd Menter yn parhau i ddatblygu a chyflwyno cyfleoedd tymor hir ar gyfer twf a swyddi. Rwyf wedi diweddaru'r Aelodau yn rheolaidd ynghylch y cynnydd trwy ymddangosiadau yn y Pwyllgor hwn, Datganiadau yn y Cyfarfod Llawn a thrwy wybodaeth gan gynnwys manylion y gwaith sy’n cael ei wneud a chanlyniadau arolygon hydredol.
3.2 Yn fwy diweddar, fel i mi gynnig yn y Pwyllgor diwethaf, rydym wedi dechrau cyhoeddi cynlluniau strategol unigol wedi'u diweddaru ar gyfer pob Ardal Fenter.[3] Byddaf hefyd yn adrodd ynghylch y set ddiweddaraf o Ddangosyddion Perfformiad Allweddol maes o law.
3.3 Mae ychydig o newidiadau wedi cael eu gwneud i’r Byrddau sy’n addas at y diben. Enghraifft ddiweddar o hyn yw penodi Chris Sutton fel Cadeirydd Ardal Fenter Canol Caerdydd. Mae gan Chris gyfoeth o brofiad a bydd yn gaffaeliad mawr i'r Bwrdd ac yn wir i'n hagwedd ehangach at Ardaloedd Menter.
3.4 Mae deiliadaeth y Byrddau cyfredol yn dod i ben ar 31 Gorffennaf 2015. Rwy’n glir bod yna angen am strwythur Bwrdd wedi Gorffennaf 2015 i roi trosolwg a chyfarwyddyd parhaus. Felly, rwyf wedi penderfynu y bydd proses benodi annibynnol yn cael ei chynnal a bydd manylion y Byrddau’n cael eu hysbysebu’n fuan. Rwyf hefyd yn ystyried dyrannu cyllideb wedi'i neilltuo i bob un ei defnyddio ar brosiectau allweddol.
4. Metro Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
4.1 Mae Metro Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cyflwyno cyfleoedd sylweddol i ddarparu ateb o ran trafnidiaeth integredig sy'n sbarduno gweithgaredd economaidd.
4.2 Mae'r cynnydd yr ydym wedi ei wneud hyd yma gyda'r Metro, y camau gweithredu sydd wedi eu nodi ar gyfer y cam cyflwyno nesaf, a rhai syniadau newydd y gellir eu profi ymhellach cyn buddsoddi yn y dyfodol i gyd wedi eu nodi yn fy niweddariad diwethaf i gael ei gyhoeddi am y Metro.[4] Mae hwn yn nodi gweledigaeth o rwydwaith trafnidiaeth helaeth ar draws y ddinas-ranbarth ehangach.
4.3 Er bod y buddsoddiadau seilwaith posibl wedi bod yn destun gwerthuso ar lefel uchel, rydym bellach yn ymgymryd â'r gwaith manwl pellach i ddylunio, datblygu a gwerthuso rhaglen o ddarparu. Mae opsiynau dylunio a masnacheiddio’n dod rhagddynt yn dda.
4.4 Yn ddiweddar, cyhoeddais y byddwn yn creu is-gwmni di-d difidend i Lywodraeth Cymru fel rhan allweddol o’n dull o weithio i gyflawni’r system drafnidiaeth integredig fwyaf effeithiol yng Nghymru. Yn y lle cyntaf, bydd y cwmni’n rhoi help a chyngor technegol er mwyn gyrru prosiectau cysylltiedig y Metro yn eu blaenau gan fod yn benodol a chaffael ar Fasnachfraint nesaf Cymru ar gyfer Rheilffyrdd Cymru a’r Gororau a Phrosiect Moderneiddio a Thrydaneiddio’r Cymoedd.
4.5 Rwyf hefyd wedi cytuno i gomisiynu model trafnidiaeth rhanbarthol ar gyfer Dinas-ranbarth Dinas Caerdydd. Bydd hwn yn becyn cymorth hanfodol i’n helpu i gynllunio a chynnal y Metro a’r dulliau teithio ehangach yn yr ardal a bydd yn golygu y bydd y cwmni newydd di-ddifidend yn gallu i fynd ati o ddifri gyda’i waith a bod yn llwyr seiliedig ar dystiolaeth.
4.6 Mae hefyd cynnydd da wedi cael gyda rhai prosiectau seilwaith pwysig fel buddsoddiad £77 miliwn yng ngham 1 prosiect y Metro gydag agor gorsaf newydd yn Pye Corner ar 14 Rhagfyr. Bydd prosiectau eraill yn cynnwys cyflwyno:
[2] http://gov.wales/docs/det/publications/150216-a-growth-strategy-for-the-swansea-bay-city-region-en.pdf